Wiliam Owen Roberts Y Pla **************** Y plant fenga oedd y rhai cynta i weld Chwilen Bwm yn nesáu at yr eglwys a sach dros ei ysgwydd. 'Ydi hon da i rhwbath?' 'Gobeithio fod 'na ddigon o fynd ynddi hi, myn diawl!' Llusgodd gwahanglwyfyn ifanc o'r enw Einion Fychan ei hun draw ond fe'i herlidiwyd gan ddwy daeoges â phicweirch pren. Ond roedd yn benderfynol o fod yn dyst i'r hwyl a'r miri ac felly, er mwyn cael gweld yn iawn, sodrodd ei hun ar ben carreg go fawr lle gallai weld yn weddol ddiymyraeth. Taflodd un neu ddau o'r plant gonynnod afal ato a'i daro'n dwt ar ei war. Ceisiodd yntau wegilsythu a chyrthu'r conynnod ond roedd arno ormod o ofn colli'i afael a thynnu mwy o sylw ato'i hun ac felly ymfodlonodd yn weddol anfodlon. 'Uffar o ddannoedd. Yn fy lladd i. Ers dyddia...' Dododd Chwilen y sach i lawr a gwasgu'i ddannedd pydredig yn sownd dynn yn ei gilydd. Ger mur yr eglwys y trefnwyd cystadleuaeth fwya llwyddiannus y faerdref. Adeiladwyd corlan o wiail a phren ac fe'i rhwymwyd yn amrwd. Yno'n llu daeth tyrfa nobl o bobol o bob oedran at yr hwyr. Bu'r rhan fwya o'r taeogion yn edrych ymlaen yn eiddgar at y gystadleuaeth arbennig yma ers amser. Yn wir, roedd si gre ar led fod y rhai mwya brwd a chydwybodol wedi bod yn ymarfer yn slei bach ar eu pen eu hunain. Darganfu merch taeog olion yn y wîg ger ei hofeldy un noson wrth iddi hel yr ieir i mewn. A nesaodd Hwch Ddu, merch ifanc o daeog ato, a chydymdeimlo - 'Fasa'n well gen i farw na diodda fel gwnes i llynadd, Chwilan.' Ymgroesodd pawb. Camodd hen wreigan o'r enw Gwythwches ato a chydio'n dynn yn ei arddwrn: 'Do mi gweld hi!' 'S'dim brys! Sadiwch newch chi, ddynas!' 'Be ei di i lusgo rhyw hen lynghyran o beth i le fel hyn?' 'Ych a fi!,' poerodd, 'mae 'na 'sglyfath o flas yn fy ngheg i. Fel taswn i wedi llyfu tafod ci am dridia...' 'Mi ddaw â'i fendith rhag pob afiechyd.' 'Dyna mae nhw'n ddeud,' ymgroesodd un arall wrth ei ymyl. 'Mae 'na lawar o wirionadd ym mhetha'r hen bobol,' llefarodd gwragennus â darn o glust, a sglaffiwyd un noson gan glamp o lygoden pan oedd yn faban yn ôl pob sôn. (Er i rywun ddweud unwaith ei fod yn ddyn gwyllt yn ei ieuengoed ac iddo gwffio â thaeog arall yn y caeau rhywdro ac i hwnnw fwyta'i glust.) Pwysodd Chwilen yn erbyn mur yr eglwys a gwasgu'i ddannedd hyd nes roedd dagrau'n tasgu o'i lygaid. Roedd y boen yn waeth nag unrhyw burdan. Llyfodd ei dafod hyd ei ddannedd ac yna blasodd sudd ar flaen ei dafod, sudd sur mor sur â bol neidr. Rhwbiodd flaen ei droed yn y ddaear gan wrthio'i fys mawr i'r pridd. Gwibiodd baedd heibio tan wichian wrth i ddau neu dri o blant neidio ar ei gefn. 'Hei, tyd 'laen!' gwichiodd rhywun. Trodd. Wynebau trwy lygaid dyfrllyd. Sychu ei lygaid. Roedd tua deugain o bobol wedi ymgynnull erbyn hyn. Rhai ohonynt yn deuluoedd cyfan. Pwysai rhai ar y gorlan wiail tra rhythai eraill â diddordeb neilltuol ar y sach. 'Tyd 'laen, Chwilan! Dangos be sgin ti!' 'Gobeithio fod hon yn well na'r un oedd gin ti llynadd...' 'Ti wedi hogi'i dannadd hi?' 'Cwrcath...' 'Astan uffar...' Ciledrychodd Chwilen ar y wynebau. Edrychodd yn araf o un i'r llall. Pobl lwglyd wyneblwyd. Yn llwgu am dwrw. Yn newynnu am wefr. Cythrodd rhyw hogyn bach yn y sach gan agor y cortyn yn gynddeiriog. Dododd ei law i mewn a chwilota'n eiddgar. Rhewodd. Gwenodd ac yna araf dynnu cath ddu gerfydd ei gwar ohono. Daliodd hi uwch ei ben yn fuddugoliaethus. Wynebau yn magu edmygedd, ton ar ôl ton o sisial a mân siarad yn torri trwy'r dyrfa. A chamodd yr hogyn bach yn ofalus a thyner dros y gwiail ac i'r gorlan. Dododd y gath i lawr. Tarodd hen hen wr (na feiddiai neb ddyfalu'i oedran) ei bastwn ar y ddaear. Distewodd pawb a daliodd oddeutu deg i ddeuddeg gwelltyn yn ei ddwrn. Cerddodd deg o bobol heibio gan dyner gydio ym mhob gwelltyn gyda bys a bawd: 'Y chwe byrra aiff â hi!' ebe'r hen wr heb brin agor ei geg. Ag ymhen chwinciad roedd chwech yn sefyllian yn rhes o flaen y gorlan wiail. Safodd chwech arall y tu ôl iddyn nhw gan ddiwyd rwymo'u dwylo'n dyn: 'Mi wyddoch cystal â finna be 'di'r rheola,' llefarodd yr hen hen wr mewn llais main, undonog, 'dim brathu, dim cicio, a dim poeri. A dim ond trwy wneud defnydd o'r talcen mai'i lladd hi!' Chwarddodd ambell un yn y dorf a chrechwenodd yr horwth barfog ar y pen pella (enillydd bum tro yn olynnol). Gwichiodd dwy ferch daeog gan gau'u dyrnau a neidio i fyny ac i lawr wedi cynhyrfu'n llwyr. Doedd hi ddim yn anarferol i rai wneud yn eu dillad gan fod yr achlysur yn mynd yn drech na hwy'n aml. Eisteddodd yr hogyn bach ar ei gwrcwd yn y gorlan yn mwytho'r gath. Camodd y chwech dros yr ymyl ac i mewn i'r gorlan. Cydiodd rhywun yng ngwar yr hogyn bach a'i lusgo drosodd. Rhythodd y chwech ar y gath ac ysgwydodd honno'i chynffon. Aeth y dorf yn fud. Atebwyd 'Barod?!' yr hen hen wr gan fonllef unfryd. Ac yn egnïol ddisymwth, dechreuodd y drochfa fawr. Bwriodd y chwech iddi â'r fath arddeliad fel y gallai'r rhan fwyaf o'r dorf dystio na chlywyd erioed rymusach na llymach swn pennau'n clecian yn erbyn ei gilydd erioed yn hanes cwmwd Eifionydd. (Neu cyn cof yr hynaf, o leiaf.) Tasgodd llwch a phridd yn ffyrnig i'r awyr. Ffroenodd rhai y ddaear yn un ag arogl traed chwyslyd! Stampio! Stompio! Troi! Ffagio! Tuchan! Gwichian! Gwthio! Erthychu! Pwnio! Ysgwyddo! Sgwdio! Sgidio! Sgrialu! Chwalu! Tasgu! Rowlio! Cripian! Bloeddio! Gweiddi a gwaedu! Ac roedd y dorf yn lloerig! 'I mewn! I mewn! 'Dos yn is! Is!' 'Amdani! Amdani!' 'Pen! Pen! Pen!' Ond roedd y gath o'r golwg dan y coesau a'r traed. Prin y gallai neb ei gweld yng nghanol yr holl lwch a'r tuchan a'r troi chwil pesychlyd trwsgwl. A'r dorf yn lloerig. Roedd trwyn un neu ddau'n rhedeg. Brathodd rhywun ên y llabwst barfog gan hopian o gwmpas â llond ceg o farf. Sgrechodd y llabwst. Ond gan na allai gael ei ddwylo'n rhydd fe wyrodd ei ben ac fe darodd rywun arall ar ei gorun. Mwy o weiddi! Y gwahanglwyf yn hedfan! Y gath yn sgrechfewian! Y dorf yn bwhwman! Y llwch yn goch! Y traed yn ddu! Yr awyr yn las! Y gweiddi'n uwch! Llwch! Yn uwch! Llwch! Yn uwch! A rhibyn o waed ar wenithfaen yr eglwys... I Ond cyn bwrw iddi â hanes maerdref Dolbenmaen, mae'n well inni gymryd hoe am sbel, ac i minnau gael cyfla i'ch cyflwyno chi i un o brif gymeriadau'r nofel sef Ibn al Khatib, myfyriwr yn y Madrasa, Coleg y Sultan Hasan yn ninas Cairo, ers pan oedd o'n saith oed. Bellach, ag ynta heb brin orffen 'i addysg ac ar fin mentro ar ei Hajj cynta mi ddaeth newyddion go ddrwg iddo fo'n y coleg, mae arna'i ofn... Fyth er cwymp Bagdad tan rym lluoedd y Mongoliaid rhyw gan mlynedd ynghynt, Cairo a'i phoblogaeth o hanner miliwn oedd prifddinas y byd Mwslemaidd. Doedd y coleg anferth heb ei orffen. Roedd y gwaith adeiladu yn dal i fynd rhagddo ond roedd eisoes yn orchest bensaernïol ac yn goleg anferth wedi ei amgylchynu â phedair liwan, un i bob un o'r pedwar madhhab. O edrych i fyny rhyfeddai pawb at y nenfwd uchel a ymestynai hyd dragwyddoldeb bron gan greu rhyw ymdeimlad o fawredd a ias fod y fath orchestwaith yn bosib. Yma o dan y liwan y byddai'r ulama brwd yn ymgasglu wrth draed eu gwahanol athrawon i astudio'r Coran a'i draddodiadau gan ymdrechu dysgu ar gof a chadw reolau dyrys y fiqh cyn gwasgaru i genhadu i bob rhan o'r byd Mwslemaidd a thu hwnt. Dywedid yn aml wrth Ibn al Khatib ei fod yr un ffunud â'i dad pan oedd hwnnw ym mlodau'i ddyddiau. Roedd yn balffyn o wr ifanc cyhyrog a chefnsyth ac roedd cyn gryfed â chamel teirblwydd. Talcen llydan ac amlwg, a'i drwyn bwaog rhwng dau lygad mawr, rhai crynion du gyda mymryn o frown ynddynt. Trwch o wallt yn cyrlio ychydig yma a thraw. Roedd ei groen yn oleuach na'r rhelyw o'i gyfoedion ac fe welid gwythïen amlwg yn ei arlais a ymchwyddai'n ddireol gan neidio 'nôl a blaen fymryn pan fyddai wedi gwylltio neu'n ceisio ymdopi â rhyw broblem astrus. Ceg fechan oedd ganddo a gwên ddireidus wastad ar ei min (gwnâi hyn i amryw feddwl ei fod yn synied yn ysgafn pan fyddai yng ngwydd gwyr dysgedig o uchel barch) ond yn hytrach, gwên hollol naturiol oedd hi. Cerddai yn fân ac yn fuan (yn ôl hen arfer myfyrwyr y Madrasa) ond pe byddai rhywun yn galw arno ni fyddai fyth yn aros a throi ei ben ond yn hytrach byddai'n troi ei holl gorff. Gwr ifanc egnïol yn llawn bywyd oedd Ibn al Khatib, gwr a oedd yn ysu i wneud neu fynd i rywle yn dragwyddol. Ei uchelgais oedd bod yn genhadwr neu'n llyfrgellydd. Ei lysenw oedd 'mellten'. Treuliodd Ibn al Khatib y ddeng mlynedd ddiwethaf yn gwrando ac yn dysgu (ac yn amlach na pheidio yn dysgu ar gof) am gyfraith y Proffwyd fel ag y'i datguddiwyd iddo ac fel y'i cofnodwyd yn y Coran. Dysgodd am yr awydd i ddirnad y bydysawd yn rhesymol, byd a grewyd trwy ewyllys ddwyfol Allah, angen dyn i ddarganfod a chreu trefn gymdeithasol gyfiawn a fyddai'n byw mewn cytgord â dymuniad y Creawdwr, lle darostyngir anghenion blysiog dyn a'i orawydd am gyfoeth a braint. Dysgodd am allu rhyfeddol y Creawdwr, ei anfeidroldeb o'i gymharu â byrhoedledd dibwys y bywyd daearol. Yn ninas Cairo ni allai Ibn al Khatib gofio adeg pan na chlywodd y muqri yn eistedd ac yn darllen ar goedd o'r Coran. Ymdrochodd yn ei wirioneddau er pan nad oedd yn ddim o beth. Roedd rhai o'r murqi, oherwydd ansawdd eu lleisiau a'u gallu i ddarllen yn ddwys a synhwyrgall, yn wyr o uchel barch, goludog. Darllenodd Ibn y Coran o'i ddechrau i'w ddiwedd chwech o weithiau. 120,000 o eiriau, 114 suras a 6,000 ayas. Dysgu ar gof a chadw oedd un o gonglfeini addysg y Madras. Cymhathu brawddegau a phenodau cyfan trwy ailadrodd cyson hyd nes bo'r Llyfr Dwyfol yn rhan o hanfod pob unigolyn trwy'r gymdeithas i gyd, hyd nes byddai'n hidlo trwy'r byd gan nyddu tapestrïau helaeth o ddelweddau trwy wledydd cred, ym meddyliau dynion, yn eu hymwneud â'i gilydd, yn eu cartrefi, eu celfyddyd a'u pensaernïaeth. Ac yn naturiol ddigon fe wyddai rannau helaeth ohono ar ei gof ac fe allai adrodd yn ddifrycheulyd pe byddai galw arno. Roedd wrth ei fodd yn darllen, ysgrifennu a myfyrio. Deuai ei holl wybodaeth am ei gyd-ddyn a'i gymdeithas a'r byd o enau ei athrawon neu o dudalennau'r Coran. Ac am ddeng mlynedd o'i oed fer fe ddysgwyd Ibn al Khatib i holi'r cwestiynau o dragwyddol bwys yng ngoleuni'r Coran: beth yw dechreuad a thynged y ddynoliaeth? Beth yw natur y berthynas rhwng yr hil ddynol a'r ddaear? Beth yw perthynas y ddynolryw â'r Drefn Ddwyfol? Doedd prin wedi aeddfedu digon mewn oed na phrofiad nag arfau deallusol i hyd yn oed ddechrau ymdopi â'r cwestiynau hyn pan ddaeth y genadwri i'r Madrasa un prynhawn: 'Yn wael iawn?' 'Difrifol wael.' Amneidiodd ei ewyrth, Ahmad al Khatib, a cherddodd y ddau allan o'r coleg trwy borth bychan iawn yn y pyrth anferth, ac allan i drybestod poeth dinas Cairo. (c) Wiliam Owen Roberts