Robin Llywelyn Seren Wen ar Gefndir Gwyn **************** Ar ôl y chwyldro papur, y noson y cawson ni'n rhyddid, y dechreuodd fy helyntion. Roedd sgwâr dre wedi bod yn llawn dop dynn drwy'r pnawn ac eto gyda'r nos a'r tafarndai'n gorlifo i'r strydoedd. Roeddwn i wedi bod yn rhy brysur yn chwilio welwn i chdi'n croesi stryd yn rhwla i sylwi fawr ar hwn a'r llall a'i fys ar f'ôl a hon a hon yn cilwenu'n gynnil wrth fy ngweld i'n pasio. Feddyliais i ddim byd ohono fo tan nes plannodd Dei Dwyn Wya 'i benelin yn fy 'sennau fi a wincian arnai'n slei. Nid asbri'r noson yn unig oedd yn sgleinio'n ei llgadau. 'Dal hefo dy draed yn rhydd mi welaf,' oedd y cwbwl ges i gynno fo. 'Be ti'n mwydro dwad?' meddwn inna ond oedd o wedi llithro'n ôl i ganol y dorf. Wedi tindroi yn gwrando'r areithio cyrn siarad o bennau'r tyrau am sbelan bach arall a dim wisgi ar ôl i'm cadw i'n gynnas, mi godais fy ngholar am fy nghlustiau a'i chychwyn hi i rwla. Meddwl galw heibio chdi i Garrag Elin wnes i yn dechra, ond sut allwn i egluro un dim ichdi, Anwes bach, a geiriau wedi mynd yn arfau rhyngom? Croesi drwy'r twll dan stryd oeddwn i pan welais i Siffrwd Helyg eto a hitha'n ei chwman yn beichio crio a'i gwallt ar draws ei dannadd a chlais yn lledu ar ei boch hi a hitha'n hel ryw leiniau bach mwclis oedd ar chwâl hyd y concrid gwyn. 'Be ddigwyddodd, Siffrwd?' meddwn inna fel'na. Oeddwn i wedi taro sgwrs hefo hi gynna ar y sgwâr ond sgin i fawr i'w ddeud wrthi. Dyna fo, fydd hi byth a hefyd ar ben ryw helynt hefo rwbath, yn bydd. 'Jest gad di lonydd imi,' medda hitha'n sbio fel teigras arna'i a finna'n gweld colur ei llgadau'n gneud dwy ffrwd ddu lawr ei gruddiau hi. Un wyllt ydi Siffrwd Helyg Rallt yn gallu bod, fasa fiw ichdi'i chroesi hi yn ei thempar. 'Ond, Siffrwd . . . dim ond . . .' 'Jest dos. Dos at dy Anwes Bach y Galon di,' medda hi'n ffiaidd, 'ichdi gael gweld gymerith honno chdi'n ôl.' Es inna, mynd am adra; ta' i ddim i ddal pen rheswm hefo hogan mor sbeitlyd. Tu allan i Gorad Drw Nos yn eistedd ar pafin hefo'i ben yn ei ddwylo oedd Wil Chwil. Ddalltis i run gair ddeudodd o nac yn iawn y bys blaen dynnodd o o dan ei ên a fynta'n gwenu'n hyll arna'i ac yn dangos llond pen o begiau duon. Wnes i'm byd ond camu heibio fo ac i mewn â fi i chwilio am fwyd. 'Be sgin ti'n gnesol, Betsan?' meddwn i wrth Betsan Bawb tu ôl i'r cowntar. 'Sut mae'r gwaith newydd yn plesio?' 'Ma gynnon ni lobsgows a meindia dy fusnas.' Yn ôl y sôn mae Betsan Bawb yn cael ei thrin gan Gwil Sgrin Bach rwan a dyna pam mae hi'n gweithio'r nos tu nôl i gowntar Gorad Drw Nos ac nid ar ei chefn i fyny grisiau'n Gorad Drw Nos fel bydda hi o'r blaen. Dyma'r drws yn agor a Wil Chwil yn hongian arno fo ac yn disgyn am ben y byrddau. 'Allan!' meddai Betsan Bawb a hitha'n estyn coes brwsh ac yn ei waldio fo ar dop ei sgwyddau. Symudodd Wil Chwil ddim. Lluchiodd hi'r coes brwsh ato fo wedyn a chroesi'n ôl at y cowntar. 'Synnu dy weld di hyd lle 'ma o hyd,' medda hi wedyn. 'Mi dwi 'di cael hen lond bol ar hyn,' meddwn inna'n dechra teimlo'n reit annifyr. 'Fedri di ddeutha'i ble 'di'r holl siarad yma amdana'i mwya sydyn.' 'Mi fuon nhw yma gynna'n holi amdanach di.' 'Pwy felly?' 'Chwilio amdanach di maen nhw yndê? Ddeudis i ddim byd, cofia.' 'Be sy 'na i ddeud felly? I be fasan nhw'n chwilio amdana i?' Mae Betsan Bawb yn hen law ar bryfocio pobol ac am ddeud clwyddau a choelis i fawr yni hi. Ddoth Wil Chwil at y bwrdd a dechra mwydro a glafoeri a thynnu stumiau, felly mi rois ddwy uned ynni i Betsan am y bwyd ac allan â fi am adra. Dwn i'm oeddwn i'n disgwyl dim byd ond adra'r es i ar f'union rhag ofn. Daeth ryw hen gnofa i'n stumog i'n syth pan welis i lygad y peiriant atab yn fflachio'n goch. Peth cynta wnes i oedd agor y nodyn oeddwn i wedi'i godi oddi ar y mat. Toeddwn i heb dalu llawer o sylw i'r newid byd fuodd drwy'r wlad ar y newyddion yn ddiweddar achos toedd pethau heb newid llawar hefo ni yn dre ac fel arall oeddwn i wedi bod i ffwrdd yn gweithio felly doeddwn i ddim radag honno'n dallt pethau gystal ag o'n i fod. 'Iesu bach,' meddwn i wrthyf fy hun yn darllan y nodyn. 'Mae o'n wir felly. Fischermadchen isio 'ngweld i ar fyrdar. Mi fydda'i yng Nghastall Entwurdigung cyn imi droi rownd a Rawsman ei hun yn blingo'r croen oddi ar fy nghefn i. Anghofiais i am y peiriant atab, do reit siër, a 'mysadd i'n cnocio'r rhif i'r ffôn tôn fel cnocall coed yn dyrnu boncyff. Un flin oedd Fischermadchen yn cael ei deffro ganol nos. Ond pan ddalltodd hi wedyn pwy oedd yno mi newidiodd ei chân. 'Aha. O'r diwedd. Ble wyt ti wedi bod, Gwern?' medda hi'n ffalsio wedyn. 'Rydw i wedi bod yn disgwyl ti'n galw.' 'Do, mi wn i,' meddwn inna. 'Mi fydda'i draw 'cw peth cynta'n bora 'lwch. Oes nelo hyn rywbath â'r gwaith ar y rhwydwaith? Gwrandwch, mi ddeudis nad o'n i'm yn siwr hefo'r meddalwedd newydd yn do? Ydyn nhw'n filan?' 'Bore fory wyth o'r gloch. Paid â phoeni dim byd, Gwern. Tyrd am wyth, bob dim yn iawn.' Oeddwn i wedi clwad Dei Dwyn Wya'n sôn am ryw Tincar Saffrwm neu rywun a bod hwnnw'n un sgut am groesi ffiniau hefo ffoaduriaid yn denig o afael y Cyrff heb Enaid. 'Hwnnw dwisio,' meddwn i wrthyf fy hun, 'hwnnw eith â fi i Tir Bach.' A dyma fi'n meddwl wedyn, 'Ia, ond dim ond yn y chwedlau newydd mae hwnnw a tydio'm yn bod go iawn felly bedwi haws. Damia hyn i gyd.' A hyd yn oed taswn i'n digwydd coelio yn y Tincar Saffrwm, fel oedd y plant a'r hen bobol, wyddwn i mo'i rif adwy o, a beth bynnag, faswn i ddim wedi gallu cysylltu dros y ffôn tôn a gadal y gath o'r cwd i'r Rhai Sy'n Gwrando a'u tynnu nhwtha i 'mhen hefyd. 'Os na bydd gryf bydd gyfrwys,' meddwn i wrthyf fy hun yn gweld be oedd raid imi wneud. Sôn am hel pac wedyn, lluchio beth bynnag ddeuai dan fy llaw i gwdyn. Meddwl dy ffonio di. Meddwl yn gallach. Cofio am y sgrin a chofio'r adwy. Chwalis i'r ffeil toeddwn i ddim i fod yn gwybod amdani. Rhoid negas bach i Fischermadchen ar amsar ymlaen ac allan â fi i stryd heb sbio'n f`ôl. Ges i bBs gin Wil Califfornia i'r steshon a cael a chael fuodd hi wedyn imi ddal trên nos a dim ond neidio'r ffens nath imi'i dal hi. 'Tocyn, washi,' meddai'r giard trên. 'Sgin i'r un,' meddwn inna. 'Talu felly. Tyd,' medda fynta. 'Dal dy ddwr, taid, mi dalaf,' meddwn inna'n estyn fy nghardyn ynni iddo fo ac yn deud 'gwerth deugain' ac mi ges i docyn bach papur melyn allan o'i beirniant bol a'r inc heb sychu arno fo. Des i ddim allan lle o'n i fod ond pasio heibio ymlaen i'r nos, heibio llefydd na welis i mo'u henwau nhw o'r blaen. Roedd y nos fel twnnal hir a gola'r cerbyd yn felyn ar y bobol a'r rheini'n hepian. Rhai diarth oedd rhai ohonyn nhw, rhai o Gwlad Alltud hefyd ac mi sodrais i 'ngwynab yn y gwydyr yn gwatsiad y diferion glaw'n rhedag ras ar draws ffenast allan rhag ofn i neb fy nabod i. Ta waeth ges i sleidio allan a'r bora'n glasu ar orsaf Gwastadaros heb i neb ffindio 'mod i heb dalu'n iawn. Arwyddion mawr crand sgynnyn nhw'n deud enw'r lle ond cytiau sment heb blastar ar y waliau fel acw sgynnyn nhw a'r llifoleuadau'n diffodd bob gafal fel yn Dre'cw. Rêl bobol ffordd hyn ydyn nhw hefyd achos peth cynta ddeudodd neb wrtha'i oedd, 'Su'mai diarth, mynd yn bell?' (h) Robin Llywelyn a Gwasg Gomer