Mihangel Morgan Te gyda'r Frenhines ************ Cefais wahoddiad i fynd i gael te gyda'r Frenhines. Ar y cerdyn roedd y geiriau - Annwyl Sam, A ddoi di i gael te yn Ianto am ddau o'r gloch yn y prynhawn, ddydd Iau yr wythnos nesaf? Byddaf yn meddwl amdanat yn aml y dyddiau hyn, yn enwedig pan fyddaf yn gwneud te neu goffi yn y gath. Tan yr wythnos nesaf felly, cofion caredig, Eich mawrhydihydi Ol-nodyn. Ffonia o'r orsaf. Roedd ei hysgrifen yn hynod o gain. Ysgrifen Eidalaidd. Cawn gerdyn fel hwn bob wythnos, gyda'r ôl-nodyn anochel bob tro a'r gorchymyn i ffonio o'r orsaf er nad oedd gorsaf gerllaw ac ar wahân i hynny doedd dim ffôn ganddi. Beth bynnag gallwn gerdded i'r fan lle'r oedd hi'n byw o fewn chwarter awr o'm ty. Hyd y gwyddwn roedd hi'n byw mewn hen gwt neu sied lawr ar bwys yr hen ffatri ar ddarn o dir lle'r arferai tai fod ond a oedd bellach yn ardal ddiberchen, adfeiliedig, yn rwbel a cherrig a sbwriel a chwyn i gyd ond gyda golygfa hynod (ond i chi anwybyddu'r ffatrioedd a'r hen dai hyll a'r bryntni amrywiol o boptu) o'r môr. Er gwaethaf ei hamgylchfyd a'i hamgylchiadau di-raen gallai'r Frenhines gynnal urddas anghyffredin. Gwisgai mewn dillad a welsai ddyddiau gwell, hen ffrogiau hirion melfared a blodau arnynt fel arfer, oedd yn ffasiynol ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain, yn y tridegau efallai. Gwisgai hefyd glustdlysau hirion, breichledi, modrwyau (o leiaf un ar bob bys ac ar ei bodiau hefyd), neclis a tiara (popeth yn diamante a llawer o'r gemau gwydr diwerth yn eisiau). Ei choronig a roddai iddi'r syniad ei bod hi'n rhyw fath o frenhines. Roedd hi'n hynod o boeth pan es i i'w gweld hi ond y tu mewn i'w chwt roedd hi'n dywyll ac yn oeraidd. --Dere mewn, Sam, dere mewn i Ianto. Ianto oedd enw ei chwt, ei chartref. --Rydw i'n falch o gael eich cwmni, yn falch o'ch gweld chi eto. Eiste' lawr. --Diolch. Roedd ei hen gadeiriau bach cul yn serfyll, felly hefyd ei bord fach. Ar y ford roedd 'na lestri te. --Rwy wedi gwneud te yn y gath - dy gath di - d'anrheg i mi. Roeddwn wedi rhoi tebot ar ffurf cath iddi'r tro diwethaf. --Gymeri di ddisgled o de, Sam? --Os gwelwch yn dda, Frenhines. --Lapsang soushong, fy ffefryn i. Cododd y tebot-gath gan arllwys i mewn i'r cwpanau bach pert blodeuog ar y ford. Ddaeth yr un diferyn o'r tebot. --Llaeth? meddai, gan godi siwg fechan heb laeth ynddi. --Dim diolch. --Siwgr? --Dim diolch. Doedd dim siwgr yn y fowlen chwaith. --Rwyt ti'n cymryd dy de yn gwmws fel fi, on'd wyt ti? Heb laeth a heb siwgr, meddai, ac wrth gwrs mae pawb sy'n gwybod yn iawn yn yfed Lapsang heb laeth - ond rwy wedi dod â'r llaeth ma's rhag ofn. Dwyt ti byth yn gwybod gyda rhai pobl. Ond mae'n amlwg eich bod chi'n gwybod yn well, on'd wyt ti? --Frenhines, ga' i ofyn cwestiwn i chi? --Cei. --Pam ydych chi'n cymysgu rhwng 'ti' a 'thithau' a 'chi' a 'chithau' o hyd? --Cwestiwn ieithyddol, o, rwy'n dwlu ar gwestiynau ynglyn â geiriau, ac a gweud y gwir roeddwn i'n gobeithio y baset ti'n gofyn. Roedd ei hwyneb fel hen femrwn melyn wedi crebachu ond roedd ei gwên yn blentynnaidd fel llusern. --Rydw i'n cymysgu'r unigol, 'ti' a 'thithau', a'r lluosog 'chi' a 'chithau' neu 'chwi' a 'chwithau', er mwyn tipyn o hwyl. Rwy'n licio'r amrywiaeth. --Rwy wedi sylwi hefyd eich bod chi'n dweud 'rwy' weithiau ac weithiau 'rydw' ac weithiau . . . --Weithiau 'yr wyf i', weithiau 'wy i' hefyd ac weithiau 'dw i'. Yr ateb unwaith eto yw fy mod i'n licio'r amrywiaeth. Ond yn yr achos yma rwy'n licio'r gwahanol 'spîds' hefyd. Mae 'rydw i' yn golygu rhywbeth gwahanol i 'dw i', mae'r teimlad yn wahanol. Ar wahân i hynny rydw i'n licio treisio iaith, rydw i'n licio'i 'sgriwio' hi! --Ei 'sgriwio' hi? Pam? --Achos mae iaith yn hen ast, hen gnawes sy'n licio cael ei defnyddio. Mae hi'n wrach, ac mae hi'n angel. Mae hi'n gerddoriaeth ac yn fwstwr ... (roedd hi'n dechrau mynd i hwyl) ... mae iaith yn hen ddiawl hocedus. Mae iaith yn ysbryd daionus. Pan ddihunais y bore 'ma fe sylweddolais fod iaith yn yr ystafell gyda mi cyn i mi agor fy llygaid hyd yn oed. Roedd iaith ar fy ngwely, roedd hi yn y gwely gyda fi, roedd hi ym mhobman. Yn y goleuni sy'n dod trwy'r ffenestr, yn y llenni, yn yr awyr, yn y gwydr; yn chwareli'r gwydr. Pan edrychais dros y môr y bore 'ma fe welais i fod iaith ar y môr ac yn y môr, ym mhysgod a dwr a halen y môr. Edrychais 'nôl dros y ddinas a gweld yr adeiladau mawrion ac roedd iaith arnynt ac ynddynt a does neb yn y ddinas yn gallu dianc rhag iaith. Ac roedd niwl ar y môr ac roedd y niwl yn stelcian dros y môr tuag ataf fel anghenfil. Ac i'm tyb i roedd y niwl yn debyg i iaith yn mynd dros a thrwy ac i mewn i bopeth - fel'na mae iaith, hithau. Mae iaith ym mhobman. Rwy'n cael y teimlad weithiau fod popeth yn gyfrodedd ag iaith. Rwy'n cael y teimlad mai iaith yw deunydd popeth sy'n bod. Rydw i'n cael y teimlad weithiau, credwch neu beidio, rydw i'n cael y teimlad nad ydw i fy hun yn ddim byd ond iaith - dim byd ond geiriau a brawddegau. Fyddwn i ddim yn bod oni bai am iaith. Cododd ei chwpan gwag i'w gwefusau ac yfed dracht o'i the dychmygol. --Gadewch i ni fynd am dro yn yr ardd, Sam, meddai'r Frenhines gan godi. Ei hen ffrog hir yn creu awel, yn llusgo dros y llawr llychlyd, a'r plygiadau'n bwrw yn erbyn y ford fechan gan beri i'r llestri dincial. Agorodd y drws i'r cwt a daeth yr haul a'r gwres i mewn fel gweledigaeth. Aethon ni allan i blith y cerrig a'r chwyn - hynny yw i 'ardd' ei Mawrhydihydi. --Glywest ti eu bod nhw wedi darganfod corff Duw mewn arch ar ben tomen sbwriel ym Mrasil? --Naddo. --O, do! Do! meddai hi'n ffyrnig fel petawn i wedi amau'r datganiad hwn. --Do, meddai hi eto, a phan glywais i'r cyhoeddiad ar y radio rwy'n cofio meddwl amdanyn nhw'n dod i fwrw lawr y tai a oedd yn arfer sefyll yma lle'r ydyn ni a Ianto'n sefyll nawr. Roedd y tai wedi bod yn wag am flynyddoedd a dyma nhw'n dod i'w bwrw nhw lawr i'r llawr achos roedden nhw wedi mynd yn beryglus. A dyma nhw'n dod ac yn bwrw ty Nyrs Reynolds i lawr. Rydw i'n ei chofio hi'n byw yno. Hen fenyw barchus oedd hi. Ond roedd 'na gwpwrdd yn y ty 'na a phan gwympodd y waliau fe agorodd y cwpwrdd - a chi'n gwybod beth oedd yn y cwpwrdd 'na? --Dim syniad. --Sgerbwd. --Sgerbwd? --Ie. Sgerbwd bach. Sgerbwd plentyn. Ei phlentyn hi'i hun. Roedd yr hen nyrs 'na yn ei hieuenctid wedi cysgu gyda rhyw ddyn ac wedi cymryd arni fod yn dost am dipyn ac wedi mynd 'nôl i'w gwaith yn yr ysbyty a neb yn amau'i bod hi wedi cael plentyn ac wedi cuddio'r enedigaeth, wedi bwrw'r baban ar ei ben a stwffio'r corff i mewn i'r cwpwrdd 'na. Meddyliwch am y peth - a hithau'n nyrs! --Ych-a-fi. --Mae pethau fel'na'n digwydd o dro i dro. Deuir o hyd i sgerbydau bach mewn hen dai fel'na'n aml.Doedd hi ddim mor anodd i guddio genedigaethau ers lawer dydd. Ac wrth gwrs roedd gwarth plentyn anghyfreithlon yn ofnadwy. Ac yn annioddefol i bobl barchus. Dyna pam yr aeth merch John Lewis i ffwrdd. Dwedodd John Lewis ei bod hi wedi mynd i weithio mewn tre fawr dramor. Ond welodd neb mohoni'n dod 'nôl yn y gwyliau a chlywodd neb air amdani. Yna fe fu farw Mrs Lewis ac aeth John yn dost yn fuan ar ôl 'ny, doedd e ddim yn gwybod sut i goginio a doedd e ddim yn byta'n iawn. Llewygodd e mewn cyfarfod o'r Gymdeithas Er Hybu'r Syniad Bod Duw yn Bod. Bu raid iddo fynd i'r ysbyty. Wel tra oedd e yn yr ysbyty, ac yntau'n anymwybodol o hyd, roedd ei dy e'n dechrau mynd rhwng y cwn a'r brain. A gwelodd rhywun lygod mawr yn yr ardd gefn. Felly aeth rhai o Flaenoriaid y Gymdeithas i mewn i'r ty i weld be' allen nhw'i wneud. A chlywodd Llywelyn James swn yn un o'r llofftydd.A dyma'r Blaenoriaid yn mynd lam gyda'i gilydd yn disgwyl gweld llwythi o lygod. Ond pwy oedd yno ond Mai Lewis, merch John Lewis. Roedd ei gwallt yn burwyn a doedd dim dannedd yn ei phen, roedd ei hewinedd fel hen grafangau ac roedd hi'n hollol wallgof, ac roedd hi'n ddall hefyd. Ei thad oedd wedi'i chloi hi mewn stafell heb ffenestr a heb olau a hynny dros ugain mlynedd 'nôl ar ôl iddi gyffesu wrtho'i bod hi 'n disgwyl plentyn gan lanc a oedd yn gweithio yn y popty - ac roedd hwnnw wedi diengyd pan ddywedodd Mai wrtho ei bod hi'n disgwyl ei blentyn. --Oedd hi'n dal yn fyw pan agorwyd y drws i'r stafell? --Oedd. Ond fuodd hi ddim byw yn hir wedi'ny - roedd y sioc yn ormod iddi ar ôl iddi fod mewn carchar tywyll yn byw ar friwsion a dwr oer cyhyd. --Beth am y plentyn? --Ni wyr neb hanes hwnnw. --Beth am John Lewis? --Bu farw heb adennill ei ymwybyddiaeth. Edrychodd y Frenhines yn freuddwydiol am dipyn fel petai'n gweld y gorffennol yn agos o'i chwmpas. --Roedd 'na lawer o sgerbydau mewn cypyrddau a dan loriau yn yr Ugeinfed Ganrif, medden nhw, meddai'r Frenhines. Edrychais innau o gwmpas, ar olion yr hen dai. Gellid gweld lle'r oedd y stafelloedd a'r drysau o hyd. Wrth wrando ar y Frenhines, a fu'n byw yn un o'r tai hyn, fe gefais y teimlad iasoer fy mod i'n clywed yr hen gerrig ar y llawr a deunydd muriau'r tai yn siarad ac yn adrodd hanesion a ddigwyddasai pan oeddynt yn sefyll. --Pam ydych chi'n galw'ch cartref yn 'Ianto' Frenhines? --Ianto oedd enw fy nghariad cyntaf pan oeddwn yn fachgen ar ddiwedd yr Ugeinfed Ganrif. Daeth chwa o awel oer dros y môr. --Gad i ni fynd i mewn i Ianto eto, meddai'r Frenhines, mae gen i rywbeth i'w ddangos i ti. Yn ôl yn y cwt eto aeth y Frenhines at gist fechan yn y gornel. Penliniodd wrth ochr y gist a'i hagor. Roedd hi'n llawn papurau. --Mae gweld yr holl bapurau hyn yn f'atgoffa i o ddiwedd trist y brodyr Howells. --Be' ddigwyddodd iddyn nhw? --Dau hen lanc oedden nhw, yn byw yn y stryd 'ma, meddai hi, fel petai'r stryd yn dal i fod. --Harri Howells a Wiliam Howells. Llyfrgellydd oedd Harri, yr hynaf o'r ddau a chlerc neu rywbeth yn y dre oedd Wiliam. Ond roedd y ddau wedi ymddeol. Aeth Harri i orwedd pan aeth ei goesau'n wan. Deuai'r hen Wiliam i'r dre bob bore i brynu tuniau o ffa pob a'r papurau newyddion. A phrynai lyfr ambell waith. Rwy'n cofio'i weld e'n aml. Dyn bach tenau yn cerdded yn araf gan fod ei fraich yn llawn o duniau ffa pob a llwyth o bapurau. Roedd Wiliam mor gyson - deuai i'r dre bob dydd ac ai i'r un siopau a phrynai'r un nwyddau yr un amser bob dydd. Yna yn y gaeaf ddaeth e ddim. Aeth tridiau heibio heb i neb weld na chlywed siw na miw. Yna aeth criw o gymdogion i'r ty. Doedd neb wedi bod i mewn i'r lle ers blynyddoedd. Ar ôl curo a churo ar y drws penderfynwyd torri i mewn. Doedd yr un o'r dynion yn disgwyl gweld yr hyn oedd yn eu haros yno. Roedd y lle'n orlawn o bapurau a llyfrau wedi'u pentyrru'n golofnau trefnus, a cholofnau o duniau gweigion hefyd. Wrth i'r cymdogion fynd yn eu blaenau drwy'r ty fe gwympai'r cruglwythi hyn o dro i dro. Roedd hi'n amlwg fod rhywun wedi gosodmaglau ynddynt. Roedd y lle'n labrinth, yn ddrysfa o'r maglau hyn a bu raid i'r dynion fynd drwy'r cyfan yn of alus - oni bai fod criw ohonynt gyda'i gilydd buasai wedi bod yn amhosibl - a bu'n rhaid iddynt geisio darganfod y maglau cyn symud ymlaen. O'r diwedd, beth bynnag, daethon nhw o hyd i'r hen Wiliam yn farw dan lwyth o bapurau a llyfrau. Wedi'i ddal yn un o'i faglau'i hun. Roedd e wedi'u gosod nhw i ddal lladron. Ond roedd yr hen Harri yn eistedd lan yn ei wely yn disgwyl am ei bryd o ffa arferol - roedd y fath ystum erfyniol arno - ond roedd e wedi mynd yn ddall ac yn drwm ei glyw. Bu farw yn disgwyl. Heb syniad beth oedd wedi digwydd i'w frawd. Roedd y gwely yn llawn cynrhon - doedd Wiliam byth yn golchi dillad ac erbyn i'r cymdogion gyrraedd roedd y cynrhon wedi dechrau ar gorff Harri. Roedd y Frenhines yn twrio drwy'r papurau yn y gist, yn chwilio am rywbeth. O'r diwedd dyma hi'n dod o hyd iddo ac yn dweud: --Dyma fe, y llythyr o'n i'n mo'yn 'i ddangos i chi. Estynnodd y Frenhines becyn o hen dudalennau a fuasai'n wyn unwaith ond a oedd wedi llwydo fel dillad y Frenhines ei hun. --Darllenwch hwn'na, meddai hi. --Beth yw e? --Darllenwch e. Hen lythyr oedd e mewn llawysgrifen aflêr, nid llaw'r Frenhines, ysgrifen rhywun nad oedd yn arfer ysgrifennu'n aml. A doedd 'na ddim dechrau iddo, roedd y tudalen neu'r tudalennau cyntaf yn eisiau. Fe ddechreuai'r llythyr yn y canol, fel petai. Dyma'r cynnwys: . . . tri. Dwn i ddim. Dwn i ddim ble maen nhw. Maen nhw wedi tyfu, wedi mynd i ffwrdd ac yn aros bant. Dyna beth yw bod yn fam. Dwi wedi bod yn briod ddwywaith. Yr un cyntaf oedd tad fy meibion. A ti'n gwpod be wnaeth e? Roedd e wedi cael ffrae gyda'n mab iengaf achos roedd hwnnw am fynd i ffwrdd 'run peth â'i frodyr ond dim ond un ar bymtheg oedd e. Doedd ei dad ddim yn fodlon ond fe aeth y crwt. Roedd fy ngwr i mor grac, teimlai fel methiant o dad, aeth i lawr i'r afon yn oriau mân y bore a chrogi 'i h unan wrth y bont. Felly fe briodais i'r ail dro. Gwraig ganol oed o'n i ond roedd fy ngwr newydd i ddeng mlynedd yn hyn na fi. Ac fel mae pethau'n digwydd ro'n i wedi bod i'r dre i siopa a phan ddetho i'n ôl roedd y ty yn oer ac yn dawel. O'n i'n gwpod yn syth fod rhywbeth mas o'i le. Doedd fy ngwr i ddim lawr llawr. Detho i lan llofft 'ma i ddisgwyl amdano fe. Ac yn y rhwm fach 'na sydd ar glo 'da fi o hyd bellach roedd e wedi torri 'i gorn gwddwg â chyllell o'r gegin. Roedd ei waed e ym mhobman. Digalon oedd e twel achos roedd e wedi colli'i waith a dim gobaith cael dim byd arall yn ei oedran e ... Ar ôl i mi ddarllen y llythyr, neu'r darn o lythyr yn hytrach, gan fod ei ddechrau a'i ddiwedd wedi mynd ar goll, dywedodd y Frenhines - -- Cyd-ddigwyddiad trist ac anffodus, ontefe' Menyw yn colli dau wr drwy iddyn nhw gyflawni hunanladdiad. Ond 'na fe, mae bywyd yn rhyfedd, ac yn ni'n byw mewn penbleth. --Pwy oedd hi? --Menyw oedd yn byw yn y tai hyn. Ro'n ni yn yr ysgol ar yr un pryd. --Sut gawsoch chi'r llythyr? --Sgrifennodd hi'r llythyr ataf fi, wrth gwrs, ar ôl i'w hail wr wneud amdano'i hun. Roedd hi wedi mynd i ffwrdd i fyw a doeddwn i ddim wedi clywed oddi wrthi ers blynyddoedd. Ond ar ôl y trychineb 'na doedd hi ddim yn gwpod ble i droi. Roedd ei thri mab wedi'i gadael hi fel mae hi'n dweud ar ddechrau'r darn 'na, felly sgrifennodd hi ataf fi er mwyn rhannu ei phecyn gofidiau. --Be' ddigwyddodd iddi wedyn? --Cafodd ei chymryd i ffwrdd i ysbyty'r meddwl ac yno y buodd hi farw hyd y gwn i. --Oes plant 'da chi, Frenhines? --Bu plentyn 'da fi. Merch oedd hi. Plentyn anghyffredin iawn. Ie, roedd hi'n eithriadol. Doedd hi ddim yn bert iawn gwaetha'r modd - ei thrwyn hi braidd yn fawr, fel ei thad, a'i llygaid yn llawer rhy agos at eigilydd fel llygaid fy nhad innau. Ond roedd hi'n anghyffredin iawn a phawb yn cydnabod hynny. Awn i i gwrdd â hi o'r ysgol - pallai'n deg â mynd na dod o'r ysgol ar ei phen ei hun, hyd yn oed ar ôl iddi droi'i thair ar ddeg. Yna byddai hi'n sefyll amdanaf i bob dydd yn iard yr ysgol. Ar ei phen ei hun fel arfer, ond weithiau gyda haid o blant eraill o'i chwmpas. Ond hyd yn oed gyda thorf o blant roedd 'na ryw arwahanrwydd yn ei chylch. Disgynnodd tawelwch fel llen yn y cwt. --Be' ddigwyddodd iddi? mentrais. --Aeth hi i lawr i'r pentre, ar ei phen ei hun am unwaith, i nôl neges i fi ac i bostio llythyrau - roedd hi wedi dechrau mentro ma's ar ei phen ei hun o'r diwedd - aeth i'r siopau a phostio'r llythyrau, un i'm chwaer ac un i'm cnithder. Cyrhaeddodd y llythyrau ben eu taith ond does neb wedi gweld fy merch i... Mae pymtheng mlynedd ar hugain ers hynny. Estynnodd y Frenhines gwpan i mi. Nid oedd modd i mi'i gwrthod. --Bues i'n gofidio ac yn pryderu amdani hi am flynyddoedd. Be' ddigwyddodd iddi, oedd hi'n saff, oedd hi'n fyw o hyd? Doedd yr heddlu ddim yn gallu darganfod arlliw ohoni. Bues i'n drwgdybio'r dynion i gyd. Credais ei bod hi wedi cael ei chipio. Yna newidiais fy meddwl - roedd hyn flynyddoedd ar ôl iddi fynd ar goll - sylweddolais ei bod hi wedi diflannu. Fuasai neb wedi gallu'i chipio hi liw dydd yn yr ardal 'ma, roedd pawb yn ei nabod hi'n rhy dda, a'r lle'n rhy agored. Na, roedd hi wedi diflannu. Dydw i ddim yn deall ond mi wn taw dyna ddigwyddodd iddi. Bu'n dawel am funud a golwg bell yn ei llygaid. --Ond rwy'n dal i'w disgwyl hi'n ôl. Dyna pam rwy'n gwrthod symud o'r lle 'ma er eu bod nhw wedi bwrw'r tai lawr. Yn fuan wedyn daeth yr ymweliad i ben. Rwy'n edrych ymlaen at yr un nesaf, bellach, pan fydd y storïau'n wahanol unwaith eto. (h) Mihangel Morgan a Gwasg Gomer