Menna Elfyn Blodau Gwylltion ********* Tu ôl i'r barrau, bu'r barnwyr lleyg yn cynnal llys. O'u blaen, y llestr gwannaf un. Yn ffluro llys yr ychen. Ond thâl hi ddim rhyfygu. Gwelant mai di-enw flodyn wyf ymysg y crinllys, yn ffugio codwarth diarth, a'r elinog yn dringo ataf. Gwyra'r clychlys arnaf a gweld na fum ynghrog. Ni'm cythrwyd o lwyn. Theimlais i na llafn llaw dyn ar wegil. Clawdd llonydd a ges. Daw'r ddedfryd yn unfryd o sydyn. Nid dewr ond dwl wyf. A dall. Yn fenyw na fyn na glöyn byw ar ei gwarthaf. Pa eneth a gollai sadyrnau siawns ei neithdar a phleserau'r gwrych. pitiant Sepalau mor sobr. Hwy o les eu cryman. Di nodwydd fraich wyf. Heb fwgyn i gynnal poen. na genynnau ar arlais. Cesail o gysgod a ges ymhlith petalau a brofodd wayw corwynt a chraith. Daeth awr i dystiolaethu, sgriffian graffiti ar tabula rasa wal, tri oabi hirgoes ynghanol meysydd paradwys - dacw'r un rhudd mewn parêd yn dathlu'r lladd er bod y gweirgloddau yn dal i ddiferu; a dyma'r un gwyn a wisgaf yn asgwrn tangnefedd bob tachwedd i herio holl adnoddau'r gad; a dacw hi, myfi, y pabi Cymreig sy'n cuddio ei bochau gan ddiffyg dewrder ei chlefyd melyn. Aeth y barnwr allan, yn gwenu ar y pabi tawel, ar frig ei dicter, at dusw crud yr awel.