Angharad Tomos Titrwm Pennod 1Glywi di 'nghuro? Rwy'n curo, o mor ysgafn, ar ffenestr dy fod. 'Tyred a gwrando, mae'r diferion glaw'n diflasu disgwyl clywed cynnwrf yn y coed.' Rwyt tithau'n curo, yn ysgafnach, ac mi allaf dy deimlo. Curiad dy galon, curiad cynnwrf, curiad dy droed. Megis cynnwrf petalau i gychwyn, ac yna rwyt ti'n curo'n uwch, yn daerach.Mae gen i gymaint i'w rannu â thi. Cymaint i'w ddweud. Gad i mi sibrwd gwirioneddau yn dy glust sydd eto i'w ffurfio. Gad i mi drosglwyddo i ti faich ein hanes. Sugna, blasa, ymestyn am y cyfrinachau sy'n dy aros. Mae cymaint o'th flaen. Rwyt ti'n llechen ddilychwin, yn draeth heb ei droedio, yn wy cyn agor, yn ddalen lâan, yn air heb ffurfio, yn sisial mewn gwynt, yn gân i'w chanu, yn ogof i'w darganfod, yn gist ddirgel, yn obaith sy'n esgor. Cymaint sydd yna i'w rannu, i'w ddweud, i'w ochel, i'w fwynhau, fel 'mod i'n gwaredu a gwirioni'r un pryd. Gwirioni â'r syniad o'th weld a'th gyffwrdd. Gwaredu y cei dy fwrw ar drugaredd y byd. Mae yna wyrth yn digwydd, a thithau'n rhan o'r dirgelwch mawr. Rwyt ti'n wead cain, yn batrwm Celtaidd, yn gyfrinach sy'n dal ei gwynt. Ac mi fedra i rannu efo ti. Yn nyfnder dy lygaid, fydd yna ddim amheuaeth 'mod i o 'ngho. Mewn byd lle mae synnwyr yn eilbeth a synhwyrau'n teyrnasu, mi fedra i sibrwd dirgel bethau'r galon wrthyt. Mi gaf fynediad i dy gysegr, mi gofnodaf weledigaethau. Mi'th dywysaf i fannau cudd, mi'th rybuddiaf rhag stormydd, mi adroddaf chwedlau fydd yn codi gwallt dy ben ac a fydd yn dy suo i drymgwsg. Elli di wahaniaethu rhwng goleuni a thywyllwch? Bydded goleuni, a goleuni a fydd. Ac fe rennir y goleuni hwnnw yn lliwiau o bob math. Mae 'na las llachar, llachar sy'n lliwio'r ffurfafen. Mae 'na wyrdd i'w ryfeddu yng ngwaelod y môr. Coch lliw'r gwaed ac oren sy'n fflamau, porffor mewn plu ac aur i'th ddallu. Melyn yr eithin a phinc sy'n trydar, indigo, rhwd, gwyrddlas ac arian, du sy'n sgleinio a gwyrddlas symudliw. O fewn y lliwiau hyn, mae 'na liwiau gweld trwydynt a lliwiau solet. Ac i feddwl fod y rhain i gyd yn dy aros.Wedi i'th glust ffurfio yn gragen firain, mi ddeil synau o bob math. Synau mawr a synau llai, sibrwd a sisial. Mi fydd yna synau pobl, synau pethau, synau natur. Mi glywi sgrech a suo. Mi gei ganu caneuon a dysgu iaith, ac mi rydd yr iaith honno ffenestr ar dy fyd. Mi glywi swn glaw, swn galar, swn dirgel cyfrinach, synau dyrys, synau ofn. Dônt i gyd i'th ran. Mi gei di arogli bara a blasu llaeth. Mi gei di lenwi dy ffroenau ag arogl lledr, arogl rhos, mecryll yn ffrio ac oren yn tasgu. Mi gaiff dy dafod chwarae â melyster mefus a mêl. Mi gaiff doddi menyn a sipian medd. Mi gaiff gusanu a chwibanu a mynegi eithafrwydd llawenydd. Mae 'na aroglau cudd, rhai melys, rhai chwerw; rhai newydd, rhai hen, a rhai fydd yn chwarae mig â'th synhwyrau.Hyd yn oed os na chei dy fendithio â'r cyfan o'r rhain, mi gei di'r ddawn i deimlo. O'r funud y deil rhywun ti yn ei ddwylo, o'r funud y cyffyrddi fron dy fam, mi gei brofi gwefr agosatrwydd. Y modd y mae'r cnawd wedi ei wneud i'w gyffwrdd -i'w gofleidio a'i gusanu, i'w fwytho a'i flasu, i'w wasgu a'i gicio, i'w garu a'i fagu. A hyn, rywsut, rywfodd, wedi ei gysylltu'n wyrthiol â'r teimlo mewnol, fel na elli di gael dy fwytho heb deimlo cynhesrwydd rhyfeddol yn llenwi dy galon, fel na elli di gael dy gicio heb deimlo cynddaredd yn dy galedu. Mae pob cyffyrddiad o'r tu allan yn ennyn ymateb o'r tu mewn. Rhywbeth felly ydi byw - ymateb yn reddfol i'r modd y cawn ein cyffwrdd.Mi rannaf y cyfan sydd gen i â thi. Pan ddaw awr yr esgor, mi fyddi'n gyfarwydd â theithi meddwl meidrolyn. Fy rhodd i ti yw'r gyfrol hon fydd yn cofnodi dy fabinogi ac yn olrhain dy gyfrin achau di.Pennod 2Wrth i ti gyffwrdd y ddalen hon, fydd dim swn i'w glywed. Ni fu smic wrth i'r pin gofnodi'r geiriau hyn hyd yn oed. Agorwn y llyfr a byseddwn y dalennau mewn tawelwch fyddai'n llethol i eraill. I mi, mae o'n dir cyfarwydd nad wyf yn teimlo'n ddieithr ynddo.Wrth i ti gael dy fwrw i'r byd, os canfyddi fod hwnnw mor dawel â'r groth, fe fyddi'n deall yr hyn sy yn fy meddwl. Os gweli wynebau yn rhythu arnat a chegau'n symud yn ddifynegiant, paid cynhyrfu, Titrwm. Y cyfan mae o'n ei olygu yw fod ganddyn nhw eu ffordd eu hunain o gyfathrebu, a bydd gennym ni'n dau ffordd arall. Cawn fod yn un mewn distawrwydd. Cawn ganfod ein hystyr ein hunain i bethau, a chaiff y rhaff rhyngom mo'i thorri'n llwyr. Fydd dim i'w ofni. Fe gym'ran nhw lai o sylw ohonot, a chei fwy o lonydd ganddynt. Chei di mo dy flino â'u clebran di-baid. Cei roi dy ystyron dy hun i bethau. Byddgrifen a llyfrau yn golygu mwy i ti, a chei gymdeithas gyda'r rhain. Gad y byd i'w ddwndwr ei hun, mi gei gysur mewn gosteg.Ond os wyt ti'n clywed curiadau 'nghalon, Titrwm, byddi'n rhydd o'r clwyf. Mi fyddi'n gadael y ddalen hon ac yn troedio byd newydd. Rydw i am i ti gael mynediad i'r byd hwnnw. Rydw i am i ti gael y ddawn o glywed. Uwchlaw popeth, rydw i am i ti gael dy fendithio â'r ddawn i lefaru. Dymunaf i ti huotledd, eglurder, ceinder ymadrodd a llais cryf. Dysga lefaru'r iaith hon nad ydw i erioed wedi ei chlywed, fel y bydd pawb a'th glywo yn cael eu swyno a'u rhyfeddu. Bydd dy lais fel llonder bwa'r enfys yn lliwio'r nen. Bydd megis eog yn llamu uwch wyneb y dyfroedd. Bydd dy swn yn eu mwytho a'u hanwesu, a bydd ystyr dy eiriau yn eu cynhyrfu i waelod eu bod. Gelli chwerthin asgrechian, chwibanu a llafarganu, gweiddi, bloeddio, sibrwd, sisial. Byddi fel afon fyrlymus arian yn llifo o'm llyn llonydd i. Tasga arnynt, byrlyma mewn llawenydd, gwlycha hwy'n domen, sibrwd wrth y brwyn a gorchuddia'r cerrig sychion â'th wlybaniaeth di. Minnau'n hesb, yn llawn eiddigedd a gorfoledd yr un pryd.Pennod 3Petawn i'n ymwybodol o dipian cloc, 'falle y byddai'r syniad o amser yn haws i mi ddygymod ag o. Ar y llaw arall, 'falle fod pawb yn cael yr un drafferth gydag amser, tipian ai peidio.Yn y ty yma, ychydig o dystiolaeth sydd yna fod amser yn symud yn ei flaen - neu yn ei ôl. Aros yn ei unfan y mae, fel popeth arall. Mae fel swigen yn hofran uwch ein pennau, a rydyn ni'n tri yn ei llygadu, yn synnu mor ansylweddol ydyw, ac eto'n bod. Fedrwn ni ddim tynnu ein llygaid oddi arni, dim ond aros am foment ei thranc. Rhod y lleuad ydi'r unig beth sy'n newid yn y fan hyn, wrth fesur ein bywydau. Wrth i'r lleuad ymddangos, rydyn ni'n troi ein tasgau o'r naill du, ac yn ymgynnull wrth y tân. Bydd 'Nhad yn rhoi ei offer i orffwys ac yn ymuno â ni. Wrth i'r lleuad godi yn yr awyr, dringwn y grisiau i'n gwelâu a gorffwys. Pan gilia'r lleuad, codwn i aros am ddiflaniad diwrnod arall. Y lleuad yn ddi-fael sy'n gofalu am hynt a thro y llanw. Hon oedd yn rheoli fy misol i. Nes dy ddyfod di, Titrwm, pan ddisgynnodd y lleuad dros yr erchwyn, wedi iddi 'mradychu i.Bellach, mae gen innau hefyd fy swigen gudd. Yn tyfu'n ddirgel fel na fydd yn gyfrinach mwyach. Rydw i'n gwaredu daeargryn y darganfod, ac yn swatio'n ofer. Fydd hi fawr o dro bellach cyn i'r dorau ddymchwel ac i'r gwir ddylifo.Sut fath o groeso fydd hyn i ti, Titrwm? Pam na ellwn esgor arnat ymysg rhai fyddai'n dyheu am dy ddod? Dydw i ddim am feddwl amdanat fel pen draw hunllef, yn faich ar ben mil o feichiau. Ac eto, dyna fyddi di. Mae Mam yn cuddio ei phryder y tu ôl i'w gorchwylion dyddiol. Mae 'Nhad wedi ymneilltuo yn fwy nag erioed. Fedra i ddim dychmygu'r effaith gaiff newyddion dy ddod arnynt. Fydd pethau'n well erbyn i ti gyrraedd? A lwyddi di i gyflawni gwyrth a dod â rhithyn o oleuni i'n bywydau? Ynteu ai un o'r cysgodion fyddi dithau, yn ymgnawdoliad o'r drwg, yn preswylio dan ein cronglwyd? Ai 'mhriodoleddau i fydd gen ti, a thywyllwch llygaid ein tylwyth? Os bachgen fyddi, a fyddi'n atgof rhy boenus o Durtur? Duw yn unig a wyr.Erys amser ar hyn o bryd ac mae pawb yn dal eu gwynt. Yn niffyg tipian cloc, teimlaf dy guriadau di, ac mae 'nghorff yn chwyddo.Mae saith diwrnod wedi mynd heibio ers iddo'n gadael. Rydyn ni'n tri yn eistedd o flaen y tân. Does yna neb yn dweud dim. Ers deuddydd, mae Mam wedi ailgydio yn ei gweu, er mai dim ond rhywbeth i'w harbed rhag gwasgu ei bysedd yn gignoeth ydyw. Mae 'Nhad yn eistedd fel delw gan syllu i'r tân. Wyddan nhw ddim. Ofn anwybod sy'n eu blino. O leiaf mi wn i, er na allaf wneud dim. Iddynt hwy, mae'r cyfan mor amddifad o synnwyr.Rydw i'n codi ac yn mynd i eistedd wrth fy mwrdd ger y ffenest, gan droi fy nghefn arnynt. Rydw i'n agor y llyfr yma ac yn ysgrifennu. Mae cael sgwrsio â thi yn rhyddhad o fyd y delwau hyn a'u hoerfel byddarol. Beth gaf i ddweud wrthyt, beth gaf i rannu? Sut mae cyfleu wrth un nad yw, beth yw bod?Pennod 4Prin fod y ddalen hon yn bod. Mae wedi llosgi'n ddrwg, ac wrth i ti gyffwrdd yr ymylon, maent yn troi yn llwch ac yn duo dy fysedd. Clyw'r arogl mwg, a does dim sicrwydd fod y tân wedi diffodd. Anodd iawn yw darllen yr hyn sy'n ysgrifenedig arni, ac wrth i ti syllu ar y ddalen, gelli deimlo gwres y dinistr. Wrth i dy law amddiffyn dy wyneb, mae'r llwch yn duo dy wedd ac nid yw dy fysedd yn ddigon o gysgod rhag y mwg sy'n llenwi dy 'sgyfaint. Mae'r ddalen yn hen iawn, ond ni waeth gan y tân am hynny. Egyr ei safn yn farus, teimlaf ei anadl poeth a gwn ni chaiff byth ei ddigoni. Rhwng y düwch, mae'r geiriau'n annealladwy. Maent wedi eu llunio ar ffurf cerdd sydd wedi ei serio ar fy nghof. Wrth geisio eu darllen, mae'r ddalen yn tywyllu, diflanna rhai llythrennau, gan adael estyll sillafau a gwreiddiau geiriau. Oddi tanynt mae merch yn ymlwybro, gan edrych yn wyllt o'i chwmpas. Llefarwyd ei geiriau ym more oes. Trosglwyddwyd hwy o genhedlaeth i genhedlaeth. Ac mae eithafrwydd ei thristwch yn fy llethu. Pe gallwn gynnig y mymryn lleiaf o gysur i hon, byddai'n ysgafnhau fy maich. Ond nid oes modd i mi ei chyrraedd. Mae wedi ei chloi mewn amser, yn ffosil ar y ddalen hon, ac mae ei sylwedd yn ddeunydd llosg. Collodd hon y cyfan. fe'i hamddifadwyd o bob cwmni meidrol. Collodd ei chartref a'i thylwyth. Ac ers gwawr y genedl, mae'n crwydro'n anesmwyth rhwng y llinellau hyn, a llawer ohonynt yn golledig am byth. Unwaith, ym Mhengwern, roedd cynhesrwydd câr, roedd aelwyd groesawgar, roedd llys Cynddylan. Roedd teulu a thylwyth, cân a chyfeddach, a llosgwyd y cyfan yn ulw.Trwy'r hyn fu gynt yn neuaddau moethus a selerydd cyforiog, troedia Heledd, ar ddibyn gwallgofrwydd. Mae ei gruddiau yn wlyb gan ddagrau. Wedi methu canfod corff Cynddylan, â at faes y frwydr. Yno yn yr hanner gwyll, mae'n chwilio ymysg y cyrff am wyneb ei brawd. Heb fod ymhell, mae yna 'stwyrian. Fydde fo erioed yn fyw? Mae ei chalon yn llamu wrth fentro'n dyfnach i'r nos. Caiff ei dychryn gan siffrwd adenydd. Eryr Eli sydd yno yn llefain yn orfoleddus. Ar ei grafangau a'i big, mae'r gwaed yn gynnes. Gwleddodd ar galon ei brawd.Rydw i'n cau'r llyfr yn glep ac yn ffoi rhag y fath erchyllter. Pam rydw i'n dychryn fy hun â hen storïau fel hyn? Ond erys y gerdd, ac erys Bassa heddiw, lle claddwyd gweddillion Cynddylan Wyn.Pennod 5Wedi bod yn weddol gaeth yng nghroth dy fam, bydd y cysyniad o ofod yn un go ddieithr i ti. Cymer mai ti yw'r smotyn diwethaf yna i gael ei nodi ar y ddalen hon. Mae o'n rhwym mewn gair ac ni all symud oddi yno. O fewn y gair, mae'n rhan allweddol ohono, ond o fewn brawddeg, mae ei arwyddocâd yn llai. Yng nghyd-destun paragraff, mae ei safle yn llai fyth, ac o edrych ar y ddalen yn ei chyfanrwydd, dim on dmegis smotyn bychan yw. Dyna sut wyt ti ar hyn o bryd, y smotyn yng nghorff dy fam, a hithau'n un ymysg miloedd o wragedd. Nid oes i ti fwy o allu i symud na'r smotyn hwnnw ar ganol dalen.Beth fyddi di wedi'r geni? Mi fyddi megis inc ar flaen y pin hwn, yn cael dy dywys, ac yn gallu gadael dy ôl. Fe fyddi'n fater y tu hwnt i'r ddalen hon. Gelli gael mynediad i ochr arall y ddalen, gelli hyd yn oed gael dy dywys mor bell â diwedd y llyfr. O fewn cloriau'r llyfr hwnnw y bydd dy fywyd, ac fe ddywedai rhai mai dyna'i derfynai.Ond natur gyfyng dynoliaeth sy'n meddwl fel hyn. Maen nhw wastad yn codi muriau i gael teimlo'n ddiogel. Rhyngddynt hwy a thragwyddoldeb mae yna andros o glawr trwm, a fynnan nhw ddim edrych yn bellach nag o. Ymchwil dyn ar hyd yr oesau yw'r ymchwil am derfyn. Petai o ddim ond yn gallu derbyn nad oes yna'r un, byddai bywyd gymaint symlach.Un llyfr bychan yw dy fywyd mewn 'stafell gyforiog o lyfrau mewn llyfrgell nad yw'n darfod. Yr eiliad y doi di o'r groth, byddi mewn byd heb furiau. Tu hwnt i furiau'r cartref, mae muriau bro, tu hwnt i'r rhai hynny mae muriau gwlad, tu hwnt i'r rheini mae morglawdd. Ond pe hwyliet i ben eithaf y moroedd, a dod o hyd i ffiniau eraill, gallet fynd heibio iddynt am byth bythoedd. Wrth fyw ar gylch, does dim terfyn. Ac mae'r cylch hwnnw o fewn cylchoedd eraill ac mae'r cylchoedd eraill o fewn bydysawd, 'gwag yn troi mewn gwag o hyd'.Wrth ddod i ddiwedd llyfr, yr hyn a wna awdur yw codi'r pin ac ailgychwyn mewn llyfr arall. Mae'n trochi ei bin yn y botel inc, a chaiff y diferyn ei adnewyddu. Yr un diferyn ydyw, ond ei fod yn cael ei adfywhau. Dyna sut wyf fi ynghlwm wrth Nain, wrth Mam, wrthyt ti. Diferion ydym yn cael ein hadnewyddu mewn cyfrolau newydd. Wrth i linyn fy stori sychu, mae'r pin yn cael ei ddodi yn yr inc, a dyna sut y deui di i fod. Wrth i ti ddiferu, torrir y llinyn rhyngom a chei dy luchio i'r gwagle. Fydd yna ddim y gallaf ei wneud i'th achub. Gallaf dy lapio mewn siôl, ond ei diosg a wnei. Gallaf dy roi ar dennyn, ond datod a wna. Petawn yn glynu atat fel gelen, fe ddoi'r gwagle i'm llyncu yn y pen draw.Mi ddangosaf i ti ffiniau Llwch Gwin. Fe ddangosaf i ti'r cloddiau sy'n amgáu'r tiroedd hyn. Fe ddangosaf i t'r fan lle bu'r alanast. Awch dyn am ofod, am oresgyn ffiniau a chloriau'r naill a'r llall fu ein hanes. Beth yw'r awydd dychrynllyd hwn am feddiannu gofod. Ni ddeallaf byth.