Datganiad cyffredinol o iawnderau dyn Rhaglith Gan mai cydnabod urddas cynhenid a iawnderau cydradd a phriod holl aelodau teulu dyn yw sylfaen rhyddid, cyfiawnder a heddwch yn y byd, Gan i anwybyddu a dirmygu iawnderau dyn arwain i weithredoedd barbaraidd a dreisiodd gydwybod dynolryw, a bod dyfodiad byd lle y gall bodau dynol fwynhau rhyddid llafar a chred a rhyddid rhag ofn ac angau wedi ei gyhoeddi yn ddyhead uchaf y bobl gyffredin, Gan fod yn rhaid amddiffyn iawnderau dyn a rheolaeth cyfraith, onid yw dyn dan orfod yn y pen-draw i wrthryfela yn erbyn gormes a thrais, Gan fod pobloedd y Cenhedloedd Unedig yn y Siarter wedi ailddatgan ffydd yn iawnderau sylfaenol dyn, yn urddas a gwerth y person dynol ac yn iawnderau cydradd gwyr a gwragedd, ac wedi penderfynu hyrwyddo cynnydd cymdeithasol a safonau-byw gwell mewn rhyddid helaethach, Gan fod y Gwladwriaethau sy'n Aelodau wedi ymrwymo, mewn cydweithrediad â'r Cenhedloedd Unedig, i sicrhau hyrwyddo parch cyffredinol i iawnderau dyn a'r rhyddfreintiau sylfaenol, a'u cadw, Gan fod deall yr iawnderau a'r rhyddfreintiau hyn gan bawb o'r pwys mwyaf i lwyr sylweddoli'r ymrwymiad hwn, Felly, y mae'r GYNHADLEDD GYFFREDINOL yn awr yn cyhoeddi'r Datganiad Cyffredinol hwn o Iawnderau Dyn yn ddelfryd cyffredin i'r holl bobloedd a'r holl genhedloedd ymgyrraedd ato, fel y bo i bob person ac i bob offeryn cymdeithasol, gan ddal y Datganiad hwn mewn cof yn wastad, ymdrechu trwy ddysgu a hyfforddi i sicrhau parch i'r iawnderau a'r rhyddfreintiau hyn, a thrwy foddion blaengar, cenedlaethol a chydgenedlaethol, i sicrhau eu cydnabod a'u cadw yn gyffredinol ac yn effeithiol, ymysg pobloedd y Gwladwriaethau sy'n Aelodau eu hunain yn ogystal ag ymsyg pobloedd y tiriogaethau sydd dan eu rheoloaeth. Erthygl 1. Genir pob bod dynol yn rhydd ac yn gydradd â'i gilydd mewn urddas a iawnderau. Fe'i cynysgaeddir â rheswm a chydwybod, a dylai pawb ymddwyn y naill at y llall mewn ysbryd brawdoliaeth. Erthygl 2. Y mae gan bawb hawl i'r holl iawnderau a'r rhyddfreintiau a nodir yn y Datganiad hwn, heb unrhyw wahaniaeth o gwbl, yn arbennig unrhyw wahaniaeth hil, lliw, rhyw, iaith, crefydd, barn boliticaidd neu unrhyw farn arall, tarddiad cenedlaethol neu gymdeithasol, eiddo, geni neu safle arall. Ymhellach, ni ddylid gwahaniaethu ar sail safle boliticaidd, gyfreithiol na chydwladol unrhyw wlad neu diriogacth y mae dyn yn perthyn iddi, pa un bynnag a fo honno'n annibynnol, dan nawdd, heb hunan-lywodraeth, ai dan unrhyw gyfyngiad arall ar ei sofraniaeth. Erthygl 3. Y mae gan bawb hawl i fywyd, rhyddid a'i ddiogelwch ei hun. Erthygl 4. Ni ddylid dal neb yn gaethwas nac mewn caethiwed; dylid gwahardd caethwasiaeth a'r fasnach gaethweision ym mhob agwedd arnynt. Erthygl 5. Ni ddylid poenydio neb, na'i drin na'i gosbi yn greulon annynol a diraddiol. Erthygl 6. Y mae gan bawb hawl i gael ei gydnabod ym mhobman yn berson yng ngwydd y gyfraith. Erthygl 7. Y mae pawb yn gydradd yng ngwydd y gyfraith a chanddo hawl yn ddiwahaniaeth i'r un amddiffyniad gan y gyfraith. Y mae gan bawb hawl i'r un amddiffyniad yn erbyn unrhyw wahaniaethu a fyddai'n treisio'r Datganiad hwn ac yn erbyn unrhyw anogiad i wahaniaethu felly. Erthygl 8. Y mae gan bawb hawl i ymwared effeithiol gan y llysoedd cenedlaethol cymwys rhag gweithredoedd a fo'n troseddu'r iawnderau sylfaenol a roddwyd iddo gan y cyfansoddiad neu gan y gyfraith. Erthygl 9. Ni ddylai neb gael ei ddwyn i ddalfa, na'i gaethiwo na'i alltudio yn fympwyol. Erthygl 10. Y mae gan bawb hawl, mewn cydraddoldeb llawn, i gael ei wrando'n deg a chyhoeddus gan lys annibynnol ac amhartiol, wrth benderfynu ei hawliau a'i rwymedigaethau ac unrhyw gyhuddiad troseddol yn ei erbyn. Erthygl 11. Y mae gan bawb a gyhuddir o drosedd cosbedigol hawl i gael ci ystyried yn ddieuog hyd onis profir ef yn euog yn ôl y gyfraith mewn prawf cyhoeddus lle y bydd wedi cael pob gwarantrwydd angenrheidiol at ei amddiffyniad. Ni ddylid euogfarnu neb o drosedd cosbedigol oherwydd unrhyw weithred neu wall nad oedd yn drosedd, yn ôl cyfraith genedlaethol neu gydgenedlaethol, pan gyflawnwyd ef. Ni ddylid ychwait osod cosb drymach na'i un a oedd yn gymwys ar yr adeg y cyflawnwyd y trosedd cosbedigol. Erthygl 12. Ni ddylid ymyrryd yn fympwyol â bywyd preifat neb, na'i deulu, na'i gartref, na'i ohebiaeth, nac ymosod ar ei anrhydedd na'i enw da. Y mae gan bawb hawl i amddiffyn gan y gyfraith rhag y cyfryw ymyrraeth ac ymosod. Erthygl 13. Y me gan bawb hawl i ymsymud fel y mynno ac i breswylio lle y mynno o fewn terfynau'r Wladwriaeth. Y mae gan bawb hawl i adael unrhyw wlad, gan gynnwys ei wlad ei hun, a hawl i ddychwelyd i'w wlad ei hun. Erthygl 14. Y me gan bawb hawl i geisio ac i gael mewn gwledydd eraill noddfa rhag erledigaeth. Ni ellir hawlio hyn mewn achosion o erledigaeth sy'n gwir ddilyn troseddau anwleidyddol neu weithredoedd croes i amcanion ac egwyddorion y Cenhedloedd Unedig. Erthygl 15. Y me gan bawb hawl i genedligrwydd. Ni ddylid amddifadu neb yn fympwyol o'i genedligrwydd na gwrthod iddo'r hawl i newid ei genedligrwydd. Erthygl 16. Y me gan bawb mewn oed, yn wryw a benyw, heb unrhyw gyfyngiadau o ran hil, cenedligrwydd na chrefydd, hawl i briodi a sefydlu teulu. Y mae ganddo hefyd hawl i iawnderau cydradd ynglyn â phriodas, yn ystod priodas ac wrth ei datod. Ni ddylid priodi ond o lwyr fodd y ddau sy'n golygu gwneud hynny. Y teulu yw uned naturiol a sylfaenol cymdeithas ac y mae ganddo hawl i amddiffyn gan gymdeithas a chan y Wladwriaeth. Erthygl 17. Y mae gan bawb hawl i feddu eiddo ar ei ben ei hun yn ogystal â chydag eraill. Ni ddylid amddifadu neb o'i eiddo yn fympwyol. Erthygl 18. Y mae gan bawb hawl i ryddid meddwl, rhyddid cydwybod a rhyddid crefydd; fe gynnwys hyn ryddid iddo newid ei grefydd neu ei gred, a rhyddid hefyd, naill ai ar ei ben ei hun ai gydag eraill, yn gyhoeddus neu'n breifat, i amlygu ei grefydd neu ei gred trwy addysgu, arddel, addoli a chadw defodau. Erthygl 19. Y mae gan bawb ryddid barn a mynegiant; fe gynnwys yr hawl hwn ryddid i goleddu barnau, heb ymyrryd gan neb, a rhyddid i geisio, derbyn a chyfrannu gwybodaeth a syniadau trwy unrhyw gyfryngau, a hynny heb ystyried ffiniau-gwlad. Erthygl 20. Y mae gan bawb hawl i ryddid ymgynnull a chymdeithasu heddychol. Ni ellir gorfodi neb i berthyn i unrhyw gymdeithas. Erthygl 21. Y mae gan bawb hawl i gymryd rhan yn llywodraeth ei wlad, yn uniongyrchol neu drwy gynrychiolwyr wedi eu dewis yn rhydd. Y mae gan bawb fel ei gilydd hawl i ddal swydd gyhoeddus yn ei wlad. Ewyllys y bobl yw sail awdurdod llywodraeth gyhoeddus; dylid mynegi'r ewyllys hon drwy etholiadau dilys o bryd i'w gilydd, drwy bleid-leisio cyffredinol a chydradd, a dylid eu cynnal drwy bleidlais ddirgel neu ddull-pleidleisio cydradd a fo'n gwarantu rhyddid y bleidlais. Erthygl 22. Y mae gan bawb, fel aelod o gymdeithas, hawl i ddiogelwch cymdeithasol, i allu mwynhau iawnderau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol sy'n anhepgorol i'w urddas ac i ddatblygiad rhydd ei bersonoliaeth, trwy ymdrech genedlaethol a chydweithrediad cydwladol ac yn unol â threfniadaeth ac adnoddau pob Gwladwriaeth. Erthygl 23. Y mae gan bawb hawl i waith, i ddewis ei orchwyl yn rhydd, i amodau-gwaith cyfiawn a boddhaol, ac i amddiffyniad rhag diweithdra. Y mae gan bawb, yn ddiwahaniaeth, hawl i dâl cydradd am waith cydradd. Y mae gan bawb sy'n gweithio hawl i dâl teg a boddhaol gan sicrhau iddo'i hun ac i'w deulu fodolaeth deilwng o urddas dyn, ac ychwanegu at hynny, os bydd rhaid, drwy foddion eraill o amddiffyniad cymdeithasol. Y mae gan bawb hawl i ffurfio gydag eraill undebau llafur ac i ymuno â hwy i amddiffyn ei fuddiannau. Erthygl 24. Y mae gan bawb hawl i orffwys a hamdden ac yn anad dim i gyfyngiad rhesymol ar oriau gwaith, ac i wyliau cyfnodol gyda thâl. Erthygl 25. Y mae gan bawb hawl i safon-byw digonol i'w iechyd a'i ffyniant ef ei hun a'i deulu, yn anad dim i ymborth, dillad, annedd a gofal meddygol ac i wasanaethau cymdeithasol angenrheidiol; a hawl i sicrwydd cynhaliaeth os digwydd diweithdra, afiechyd, analluogrwydd, gweddwdod, henaint neu unrhyw wall bywoliaeth arall pan fo'r amgylchiadau'n annibynnol ar ei ewyllys ef. Y mae gan famolaeth a mebyd hawl i ymgeledd a chymorth arbennig. Dylai pob plentyn, pa un bynnag ai mewn priodas ai allan o briodas y'i ganed, fwynhau'r un diogelwch cymdeithasol. Erthygl 26. Y mae gan bawb hawl i addysg. Dylai addysg fod yn rhydd, o leiaf addysg elfennol a sylfaenol. Dylai addysg elfennol fod yn orfodol. Dylid gwneud addysg dechnegol a phroffesiynol yn agored y bawb, a dylai fod mynediad llawn a chydradd i bawb i addysg uwchradd ar sail teilyngdod. Dylai addysg amcanu datblygu personoliaeth dyn yn llawn a chryfhau parch i iawnderau dyn a'r rhyddfreintiau sylfaenol. Dylai hyrwyddo dealltwriaeth, goddefgarwch a chyfeillgarwch ymysg yr holl genhedloedd ac ymysg grwpiau hiliogaethol a chrefyddol, a dylai hefyd hyrwyddo gwaith y Cenhedloedd Unedig dros heddwch. Gan rieni y mae'r hawl cyntaf i ddewis y math o addysg a roddir i'w plant. Erthygl 27. Y mae gan bawb hawl i gymryd rhan ym mywyd diwylliannol ei gymdeithas, i fwynhau'r celfyddydau ac i gyfranogi o gynnydd gwyddonol ac o'r budd sy'n deillio o hynny. Y mae gan bawb hawl i fynnu diogelwch i'r buddiannau moesol a materol sy'n deillio o unrhyw gynnyrch gwyddonol llenyddol neu artistig y mae ef yn awdur iddo. Erthygl 28. Y mae gan bawb hawl i drefn gymdeithasol a chydwladol lle y gellir llawn sylweddoli'r iawnderau a'r rhyddfreintiau a nodir yn y Datganiad hwn. Erthygl 29. Y mae gan bawb ei ddyletswyddau i gymdeithas, lle yn unig y mae datblygiad rhydd a llawn ei bersonoliaeth yn bosibl. Ni ddylid cyfyngu ar neb, wrth iddo arfer ei hawliau a'i ryddfreintiau, ond pan bennir hynny gan gyfraith gyda'r unig amcan o sicrhau cydnabod a pharchu hawliau a rhyddfreintiau pobl eraill, ac i gyfarfod â gofynion cyfiawn moesoldeb, trefn gyhoeddus a ffyniant cyffredinol mewn cymdeithas ddemocrataidd. Ni ellir ymarfer â'r iawnderau a'r rhyddfreintiau hyn mewn unrhyw achos yn groes i amcanion ac egwyddorion y Cenhedloedd Unedig. Erthygl 30. Ni ellir dehongli dim yn y Datganiad hwn i olygu bod gan Wladwriaeth, grwp neu berson hawl o gwbl i ymroddi i unrhyw weithgarwch na chyflawni unrhyw weithred gyda'r bwriad o ddistrywio unrhyw un o'r hawliau a'r rhyddfreintiau a nodir yma.